top of page

GWYBODAETH

Mae Rhodri Huw yn arbenigo mewn cyfarwyddo cerddoriaeth, theatr, opera a digwyddiadau ar raddfa fawr ar gyfer teledu a sinema.  

 

Fel cyfarwyddwr gydag Adran Gerddoriaeth BBC Cymru am ugain mlynedd, gweithiodd Rhodri ar lu o gyngherddau a digwyddiadau proffil-uchel. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r canlynol: Tom Jones and Beverley Knight’s Gospel Christmas; nosweithiau cyntaf ac olaf y BBC Proms; BBC Young Musician; Radio 2 Folk Awards; Canwr y Byd Caerdydd; Gala agoriadol y London Jazz Festival; BBC Young Dancer; Proms yn y Parc; Gŵyl Jazz Aberhonddu; Bryn Terfel – Bywyd trwy Gân; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a’r cyngerdd Doctor Who at 50 o’r Royal Albert Hall.   

 

Yn y blynyddoedd diweddar bu’n cyfarwyddo sawl cynhyrchiad o’r Tŷ Opera Brenhinol ar gyfer sinema byw, gan gynnwys Nabucco gyda Placido Domingo; L’elisir d’amore gyda Vittorio Grigolo a Bryn Terfel, a chynhyrchiad Richard Jones o La Bohème.  Gyda chwmni cynhyrchu Illuminations, cydweithiodd Rhodri gyda Phyllida Lloyd ar ei chynhyrchiad arloesol o’r Shakespeare Trilogy yn y Donmar Theatre, gyda Wayne McGregor ar A Winged Bull in an Elephant Case o’r National Gallery, a gyda’r Almeida Theatre ar eu haddasiad teledu o Hamlet gydag Andrew Scott a Juliet Stephenson.    

 

Yn rhyngwladol, mae Rhodri wedi cyfarwyddo dau o gyngherddau’r Berlin Philharmonic ar gyfer EuroArts, dan arweiniad Daniel Barenboim a Syr Simon Rattle; cyd-gynhyrchiad rhwng S4C ac EuroArts o waith Haydn, Saith Gair Olaf Crist, o Cádiz; a dau o weithiau mawl mwyaf y traddodiad clasurol, Missa Solemnis gan Beethoven a’r Greadigaeth gan Haydn, ar gyfer Idéale Audience.

 

Fel cyfarwyddwr rhaglenni dogfen mae Rhodri wedi cyfarwyddo’r canlynol ar gyfer BBC Four: Prince: A Purple Reign; Fairport Convention; André Previn – All the Right Notes; Al Bowlly; The Andrews Sisters; a Born to be Wild, stori canu roc Americanaidd.

bottom of page